Tocyn Tymor
Bargen go iawn, gan gynnwys yr holl gystadlaethau a chyngherddau o Ddydd Mercher trwy Ddydd Sadwrn.| Cyhoeddir enillydd Neges Heddwch Llangollen 2009 |
|
|
|
|
Cyflwynwyd Alex Pasley, disgybl o flwyddyn 11 yn Ysgol Dinas Brân, fel enillydd Neges Heddwch eleni gan Gadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Phil Davies mewn gwasanaeth arbennig yn yr ysgol. Bydd cyflwyniad swyddogol gyda Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE fel rhan o seremoni Neges Heddwch yn ystod wythnos yr ŵyl. Mae’r Neges Heddwch yn rhan annatod o’r Ŵyl Ryngwladol, a gafodd ei enwebu am Wobr Heddwch Nobel yn 2004 ac sydd dal â chysylltiadau agos gyda’r Cenhedloedd Unedig. Dros y blynyddoedd mae’r Neges Heddwch wedi cael ei amlygu trwy ddawns a chân ond y llynedd gwnaethpwyd y penderfyniad i newid y drefn trwy gynnwys plant ysgolion uwchradd; dewiswyd Ysgol Dinas Bran fel yr ysgol gyntaf i gymryd rhan yn y fenter newydd. Caiff y darn buddugol ei gyhoeddi yn rhaglen yr Ŵyl a bydd Alex yn cael ei gydnabod ar lwyfan yr Eisteddfod gan Lywydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE. Wnaeth Mervyn Cousins, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Eisteddfod anfon neges i longyfarch Alex, gan ddweud ei fod yn “wirioneddol wych fod Llangollen yn parhau i yrru negeseuon heddwch cryf a chaiff eu hesgeuluso yn aml ond sydd yn bwysicach fyth yn yr hinsawdd ryngwladol bresennol.” Gwahoddwyd disgyblion Ysgol Dinas Brân i gymryd rhan yn y gystadleuaeth drwy gyfansoddi darn o ryddiaith neu gerdd ar thema eleni, sef “Ieuenctid y Byd”. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Cadeirydd Llangollen; Phil Davies, Enid a Mike Law o’r pwyllgor cerddoriaeth a llwyfannu, a Rheolwr Codi Arian/Nawdd Llangollen; Christine Dukes. Yn y darn buddugol, “A Beautiful, Brilliant Word” mae Alex, sy’n 16eg mlwydd oed, yn cymharu ei fywyd o â bywydau plant sy’n byw mewn gwledydd datblygol sy’n dioddef o newyn a thlodi. Yn y darn, dywed Alex “Surely as a ‘developed’ country we can stop this. We can feed the world, we can save the world, we can save the world from war”. Mae gwaith Alex yn enghraifft glir o ba mor awyddus yw pobl ifanc i waredu’r byd rhag annhegwch. Wrth ymweld ag Ysgol Dinas Brân, dywedodd y Cadeirydd, Phil Davies: “Llongyfarchiadau i Alex am gyfansoddi Neges Heddwch buddugol ardderchog; mae’n hyfryd gweld fod heddwch byd-eang mor bwysig i ieuenctid heddiw ac, wrth gwrs, mae Llangollen yn hybu hyn. Mae’n enghraifft cyffroes arall i’r ŵyl o bobl ifanc yn chwarae rhan bwysig ar sawl lefel.” Fel enillydd y gystadleuaeth, caiff Alex y fraint o gyflwyno “A Beautiul, Brilliant Word” fel rhan o’r tri chyflwyniad Neges Heddwch a gaiff eu perfformio yn ystod Gŵyl eleni. Yn gyntaf fel rhan o Ddydd Rhyngwladol y Plant ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 7 a Dydd Rhyngwladol y Teulu ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 11. Bydd y darn hefyd yn rhan allweddol o ddigwyddiad unigryw arall yn yr Eisteddfod eleni, sef “Cylch Heddwch” (Dydd Rhyngwladol Ieuenctid, Dydd Iau) ble bydd yr holl blant ar faes yr Eisteddfod yn dal dwylo i amgylchynu’r Pafiliwn am funud o dawelwch a fydd yn gyrru neges unedig o heddwch i’r byd. Mae cysylltiad agos wedi bod rhwng Ysgol Dinas Brân ag Eisteddfod Gerddorol Ryglwadol Llangollen ers yr Eisteddfod gyntaf ym 1947 a gynhaliwyd ar gaeau’r dref, caeau chwarae Ysgol Ramadeg Llangollen, sef Ysgol Dinas Brân gynt. Ers hynny, mae’r ysgol wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r Ŵyl, o gynnal ymarferion ar gyfer sêr y cyngherddau nos, rhagbrofion a gweithdai dawns. Dywed Phil Davies wrth gydnabod gwaith yr ysgol “Mae nifer o aelodau staff yr ysgol ar bwyllgorau’r Eisteddfod ac yn gweithio’n ddiflino trwy gydol wythnos yr Ŵyl i sicrhau bod popeth a gaiff ei gynnal yn yr ysgol yn llwyddiant, diolch” Bydd Ysgol Dinas Brân yn adlewyrchu egwyddorion yr Eisteddfod Ryngwladol trwy gynnal Her Sgiliau Ieuenctid Ryngwladol 2009 rhwng Mehefin 29 a Gorffennaf 4, ble bydd timau o 14 ysgol bartner o bedwar ban byd yn cymryd rhan mewn amryw gystadlaethau a gweithgareddau. Bydd y cysylltiad rhwng Dinas Brân ac Eisteddfod Llangollen hefyd yn cael ei ddathlu pan fydd awdures o’r nofel plant ‘Adventure at Dinas Brân’ yn ymweld â’r ŵyl ar Ddydd Sadwrn 12ed o Orffennaf. Bydd Mary Mestecky yn gwneud darlleniad o’r nofel, sy’n adrodd hanes dreigiau sy’n ymweld ag ardal Llangollen ac yn cael eu ysbrydoli gan yr Eisteddfod Ryngwladol. Mi fydd hi hefyd yn arwyddo llyfrau yn ystod Diwrnod Ryngwladol y Teulu ar y Dydd Sadwrn. |





