Get the Flash Player to see this player.
Cartref Cystadleuwyr Trafnidiaeth a Llety

Tocyn Tymor

Bargen go iawn, gan gynnwys yr holl gystadlaethau a chyngherddau o Ddydd Mercher trwy Ddydd Sadwrn.
 
Trafnidiaeth a Llety PDF Argraffu Ebost

Cystadleuwyr o Brydain

Bydd mynediad am ddim i’r Eisteddfod i gystadleuwyr o Brydain. Disgwylir iddynt wneud trefniadau eu hunain ar gyfer bwyd. Cynigir pryd o fwyd gyda’r nos yn unig i gystadleuwyr o Brydain sy’n perfformio mewn cyngerdd. Dylai unrhyw gystadleuwyr o Brydain sydd angen cymorth i drefnu llety ysgrifennu at:

Swyddog Cyswllt i Gystadleuwyr o Brydain, Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol, Ffordd yr Abaty, Llangollen, Gogledd Cymru. LL20 8SW, - Grwpiau erbyn 28 CHWEFROR 2009, Unawdwyr, erbyn 14 MAI 2009.


Cystadleuwyr Tramor

Cynigir llety i Gystadleuwyr Tramor o’r diwrnod cyn eu cystadleuaeth gyntaf hyd at fore eu cystadleuaeth olaf, yn unol â ffi nominal o £20 y dydd i oedolion a £10 y dydd i blant (o dan 16 oed ar ddiwrnod y gystadleuaeth). Bydd llety ar gyfer unigolyn sydd ddim yn cystadlu ac sy’n cadw cwmni i’r rhai sy’n cystadlu yn costio £55 y diwrnod. Bydd llety ar gael mewn cartrefi preifat yn ardal gyfagos yr Eisteddfod, neu mewn neuadd breswyl coleg neu gyfleusterau tebyg. Pe bai grwpiau sy’n cystadlu yn dymuno aros yn hirach yna mae modd trefnu hynny gyda Swyddog Cyswllt y Cystadleuwyr Tramor am gost o £45 y dydd. Bydd plant yn rhannu mewn llety wedi ei gymeradwyo, ynghyd â’r bobl hynny sy’n gyfrifol amdanynt. Mae’r costau uchod yn cynnwys llety a bwyd.

Os fydd cystadleuwyr yn cyrraedd Llangollen yn eu bws eu hunain, yna gofynnwn iddynt ddefnyddio’r bws yma i gludo eu cystadleuwyr i mewn ac allan o Faes yr Eisteddfod. Bydd gyrwyr y bysiau yma hefyd yn derbyn llety ayb. Byddwn yn cludo’r rheini sydd heb fws eu hunain, yn ôl ac ymlaen i’r Maes gyda cherbydau’r Eisteddfod sy’n rhad am ddim i’r cystadleuwyr.

Gellir trefnu bysiau i gwrdd â grwpiau tramor o feysydd awyr neu borthladdoedd gyda Swyddog Cyswllt y Cystadleuwyr. Rhaid i gystadleuwyr dalu am gostau’r bysiau, a byddwn yn eu hysbysu o’r gost pan mae’n briodol. Mae gan yr Eisteddfod Gronfa Bwrsari ac efallai byddai rhai grwpiau’n dymuno ymgeisio am gefnogaeth ariannol ar gyfer costau llety. Ond mae’r gronfa yma yn un gyfyngedig a dim ond hyn a hyn o grwpiau gall yr Eisteddfod ei gynorthwyo yn y modd yma.

Mae’n bwysig felly eich bod yn ystyried goblygiadau’r holl gost sydd ynghlwm cyn gyrru eich ffurflen gais er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ceisiadau sy’n cael eu canslo mor isel ag sy’n bosib.

Bydd rhagor o wybodaeth yn ymddangos yma’n fuan.

 
Joomla Templates by Joomlashack