Get the Flash Player to see this player.
Cartref Cystadleuwyr General Information

Tocyn Tymor

Bargen go iawn, gan gynnwys yr holl gystadlaethau a chyngherddau o Ddydd Mercher trwy Ddydd Sadwrn.
 
Gwybodaeth Gyffredinol PDF Argraffu Ebost

1. Y Lleoliad. Cynhelir yr Eisteddfod yn y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol sydd gyda 4000 o seddi. Mae’r llwyfan yn mesur 30 x 10 metr. Mae llwyfan gyda lefelau gwahanol hefyd ar gael i gorau gydag 80 o aelodau. Bydd gwybodaeth bellach yn unol â dimensiwn y Llwyfan Awyr Agored ar Faes yr Eisteddfod ar gyfer cystadleuwyr wedi eu derbyn pan fo’n briodol.

2. Cyngherddau Rhyngwladol gyda’r Nos: Efallai caiff grwpiau / corau eu gwahodd, yn ôl dymuniad y Cyfarwyddwr Cerddorol, i berfformio yn y cyngherddau gyda’r nos.

3. Blas Rhyngwladol. Er mwyn dod a lliw gwbl ryngwladol i’r ŵyl hon, disgwylir i gorau/grwpiau sy’n gwisgo gwisg genedlaethol/gwisg ar y llwyfan i aros yn eu gwisgoedd trwy gydol eu hamser yn yr Eisteddfod. Wrth i’r sesiynau cystadlu fynd yn eu blaen, bydd perfformiadau ychwanegol (ar drefn amserlen) gan nifer o grwpiau cystadleuol ar y llwyfannau awyr agored ar faes yr Eisteddfod. Bydd y perfformiadau yma hefyd yn cynnwys Cystadleuaeth Dawnsio Stryd y Byd (Cystadleuaeth 18). Mae cyfle hefyd ar gyfer perfformiadau byrfyfyr ac ymgynnull yn gymdeithasol yn Arena’r Cyfeillion a Chlwb y Cystadleuwyr, yn nhref Llangollen, ac mewn lleoliadau cyfagos.

4. Ymarferion Grŵp: Mae modd archebu slot ymarfer o flaen llaw neu wedi i chi gyrraedd drwy gysylltu â’r Swyddfa Gerddoriaeth.

5. Cyfeilydd Côr: Disgwylir i bob côr a grŵp ddarparu cyfeilydd eu hunain, ond, os oes angen cyfeilydd swyddogol yr Eisteddfod arnoch yna hysbyswch y Swyddfa Gerddoriaeth cyn gynted a bo modd. Rhaid gwneud hynny cyn 1 Mehefin 2009.

6. Ymarferion i Unawdwyr: Bydd y Swyddfa Gerddoriaeth yn trefnu’r ymarferion, a bydd manylion o’r trefniadau yn cael eu cynnwys gyda phob llythyr o dderbyniad ar gyfer cystadleuwyr fydd yn perfformio gyda chyfeilyddion Swyddogol yr Eisteddfod yng nghystadlaethau 9, 10, 11, 12, 13 a 14.

7. Gweithdrefn ar gyfer cystadlaethau: Bydd pob arweinydd côr/grŵp yn derbyn cyfeiriadaeth lawn ynglŷn â’r trefniadau sy’n digwydd yng nghefn y llwyfan.

8. Lluniau: Bydd ffotograffydd swyddogol yr Eisteddfod yn tynnu lluniau pob grŵp fydd yn ymddangos ar y llwyfan. Mae modd prynu copïau o’i stondin ar faes yr Eisteddfod. Mae’r Eisteddfod yn cadw’r hawl i allu defnyddio’r lluniau swyddogol mewn hyrwyddiadau yn y dyfodol.

9. Recordiadau: Bydd recordiadau o gystadlaethau grŵp ar gael i’w prynu o’r Siop Gerddoriaeth o fewn 2 awr wedi’r cystadlaethau grŵp ddod i ben. Mae gwasanaeth archebu drwy’r post ar gael hefyd ar gyfer DVD’s a fideos ac ar gyfer prynu rhagor o CD’s.

10. Cyfeillion yr Eisteddfod: Mae’r Cyfeillion yn hyrwyddo amcanion a nodau Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen drwy ddarparu cefnogaeth ariannol a chefnogaeth yn gyffredinol. Anogir aelodau i ffurfio perthynas agosach gyda’r Eisteddfod, ac mae pabell groeso ar gael i’r aelodau yn ystod yr wythnos.

 
Joomla Templates by Joomlashack