Get the Flash Player to see this player.
Cartref Cystadleuwyr Rhestr Testunau 2009

Tocyn Tymor

Bargen go iawn, gan gynnwys yr holl gystadlaethau a chyngherddau o Ddydd Mercher trwy Ddydd Sadwrn.
 
Maes Llafur 2009 PDF Argraffu Ebost

Mae’n fraint ag yn anrhydedd eto eleni i allu cyflwyno Maes Llafur newydd ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen; mae’r ŵyl, yn y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi gweld grwpiau ac unawdwyr o nifer helaeth o wledydd a rhanbarthau; ac mae’n braf derbyn cymaint o adborth cadarnhaol ganddynt wedi’r ŵyl; mae ysbryd unigryw o heddwch ac ewyllys da a gydnabyddir fel ‘Hanfod Llangollen’ yn rhan annatod o’r Eisteddfod yn fwy nag erioed. I ddarganfod rhagor o’r ysbryd yma ymwelwch â www.llangollen.tv <http://www.llangollen.tv> lle mae cystadleuwyr a’u cefnogwyr wedi gadael negeseuon ar yr hysbysfwrdd yn dilyn perfformiadau yn yr ŵyl ei hun .

Mae Maes Llafur 2009 yn gymharol debyg i faes llafur 2008 gyda 28 o gystadlaethau eto wedi eu rhannu’n grwpiau Corawl, Dawns, Gwerin a Cheltaidd; er bod y mwyafswm a lleiafswm y niferoedd o gystadleuwyr a ganiateir mewn cystadlaethau unigol wedi eu hadolygu. Mae 2009 yn ganmlwyddiant ers genedigaeth Arwel Hughes, Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod o 1978 i 1986 ac rydym wrth ein bodd o allu nodi hynny drwy gynnwys ei waith ‘Nefoedd’ fel un o’r dewisiadau posib yng nghategori’r Corau Plant Iau (Cystadleuaeth 8).

I ddarganfod yr holl wybodaeth sydd ei angen ar gyfer gwneud cais i unrhyw gystadleuaeth, darllenwch y Maes Llafur yn ofalus, gan nodi manylion ynglŷn â dyddiadau cau ar gyfer gwneud ceisiadau (sy’n wahanol ar gyfer grwpiau ac unawdwyr) cyflwyno recordiadau, ac ar gyfer unrhyw fanylion pwysig eraill.

Wrth gwrs, rydym yn chwilio’n bennaf am rinwedd celfyddydol arbennig o fewn ein gweithdrefn dewis. Mae’n anochel - ac mae’n flin gennym - ond mae’n amhosib derbyn pob grŵp ac unawdydd sy’n ymgeisio, prin yw ein gofod llwyfan; ond byddwn yn ymdrechu i gynnwys cymaint o wledydd a rhanbarthau ag sy’n bosib ymhob Eisteddfod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r weithdrefn ymgeisio, peidiwch ag oedi rhag cysylltu gyda mi neu yn uniongyrchol gyda un o fy nghydweithwyr yn Swyddfa’r Eisteddfod.

I gloi, rwy’n eithaf sicr bydd y maes llafur yn chwarae rhan allweddol ar gyfer creu gŵyl gyffrous a lliwgar arall yn nhraddodiad balch arwyddair yr Eisteddfod:

“Byd gwyn fydd byd a gano;
Gwaraidd fydd ei gerddi fo”

Gobeithio eich gweld yn Llangollen yn fuan!

Mervyn Cousins - Cyfarwyddwr Cerddorol,
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Chwefror 2008


  • Cystadlaethau Corawl
  • Cystadlaethau Unawd
  • Cystadlaethau Gwerin
  • Cystadlaethau Celtaidd
  • Darnau Gosod
  • Sut i Ymgaisio
  • Gwybodaeth Gyffredinol
  • Trafnidiaeth a Llety
  • Rheolau ac Amodau
  • Llawrlwythiadau
  •  
    Joomla Templates by Joomlashack