Tocyn Tymor
Bargen go iawn, gan gynnwys yr holl gystadlaethau a chyngherddau o Ddydd Mercher trwy Ddydd Sadwrn.| Gala Agoriadol |
|
|
|
|
Faryl Smith, Mark Evans, Côr Meibion Y Fron, Cantorion Colin Jones, Côr Godre’r Aran, Alexei Kalvecs Pris tocyn £20; prynwch docyn Pafiliwn Eisteddfod 2009 (o ddydd Mawrth i ddydd Sul) ar yr un amser: ac fe'i cewch am bris arbennig fel a ddengys isod*! Pris Arbennig i Ddeiliaid Tocyn yn Barod i Eisteddfod 2009: £12* *Telerau llawn ar gael ar wefan yr Eisteddfod www.eisteddfod-ryngwladol.co.uk neu wrth ffonio 01978 862001 Faryl SmithDaeth ei Chryno-Ddisg ei hun - 'Faryl' ar werth Mawrth 9fed 2009 gan Universal Records. Mark EvansWedi'i hyrwyddo yn Laine Theatre Arts, Llundain, mae Mark wedi ymddangos mewn amryw berfformiadau theatr a theledu gan gynnwys 'Troy Bolton' yn High School Musical (Hammersmith Apollo); dirprwy actor i Fiyero ac Ensemble yn Wicked (Apollo Victoria Theatre); 'Prince Charming' yn Cinderella (Churchill Theatre Bromley); Ensemble ynChess (Royal Albert Hall), ynghyd â bod yn goreograffydd cynorthwyol a dawnsiwr yn amryw o Cantorion Colin JonesDyma un o gorau meibion mwyaf clodfawr Cymru. Llwyddodd Colin Jones, sylfaenydd a dyfeisydd y côr, i gydweddu ei ddawn ddigyffelyb yng nghynyrchu llais a rheolaeth gorawl, gyda brwdfrydedd ac ymroddiad rhai o gantorion corawl ac unawdwyr gorau Gogledd Cymru. Côr Godre'r AranErs y dechrau yn 1949, bu'r côr meibion yma'n diddanu cynulleidfaoedd ar draws Cymru, yn neuaddau penna'r Deyrnas Unedig ac yn nheithiau byd-eang. Yn ben-campwyr ar hyn o bryd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, bu Côr Godre'r Aran, dros y blynyddoedd yn llwyddiannus ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol gan ennill prif wobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a thair gwaith yn Llangollen. Yn 2005, ennillodd y côr y Côr Meibion y FronYn Nhachwedd 2006, arwyddwyd Côr y Fron, sydd a'i sylfaen yn y pentre Froncysyllte, gan Universal Music Group, i gyflwyno yr albwm 'Voices of the Valley' , a chyrhaeddodd y ddisg Rhif 9 yn siart albwm UK. Yn fuan iawn, daeth y gwerthiad yn un o'r mwyaf cyflym erioed fel recordiad clasurol, gan gyrraedd statws Aur mewn 3 diwrnod, ac ers hynny gwerthwyd dros hanner miliwn copi. Cynhyrchwyd ail albwm yn Rhagfyr 2007 - 'Voices of the Valley - Encore' a chyrhaeddwyd Rhif 11 yn y siart. Alexei KalvecsPerfformiodd Alexei gyda Katherine Jenkins yng Ngwyl y Cofio 2008 yn Royal Albert Hall |





